
About
Beth sy’n eich atgoffa o gartref? Beth fyddech chi’n ei golli pe baech chi’n gadael eich cartref neu’r lle rydych chi’n byw ynddo? A oes gennych etifeddiaeth deuluol a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth? Oes gennych chi hoff le – os felly, beth sy’n eich atgoffa ohono?
Ymunwch â ni yn y Mostyn yr hanner tymor hwn unrhyw bryd rhwng 11yb – 3yp ar gyfer gweithdy galw heibio am ddim lle byddwn yn defnyddio techneg applique i greu clytiau motiff lliwgar. Wedi’ch ysbrydoli gan waith crog lliwgar Vanessa da Silva, byddwch yn creu clytiau sy’n archwilio themâu ei gwaith o fewn ei harddangosfa, ‘Roda Vida’ megis ei threftadaeth Brasil, ei chenedligrwydd, ei hunaniaeth, ei dadleoli, ei llinach a’r cylch bywyd.
Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pob oedran a gallu.